Mae gennym ni nifer o gyfleoedd newydd a chyffrous ar eich cyfer yn 2021. Efallai eich bod chi eisiau dysgu mwy yn faes gwahanol? Neu â diddordeb mewn maes penodol yn barod? Naill ffordd neu’r llall cewch wybod mwy am y cyfleoedd a’r meysydd gwahanol isod.
Bydd y dudalen hon yn cael ei ddiweddaru yn gyson i gynrychioli’r cyfleoedd newydd fydd yn codi trwy gydol y flwyddyn.
Bydd yna gyfle i ymgeisio am y swyddi isod rhwng mis Ionawr ac Ebrill 2021.
- Prentis Cyswllt Cwsmer a Chofrestru
- Prentis Gofal Plant
- Prentis Maes Gofal Oedolion
- Prentis Busnes a Gweinyddiaeth
- Prentis Maes Anableddau Dysgu (Cartrefi Preswyl)
- Prentis Maes Anableddau Dysgu (Gwasanaethau dydd / Cefnogol)
- Prentis Peirianneg Sifil YGC
- Prentis Peirianneg Sifil Priffyrdd a Bwrdeistrefol
- Prentis Peirianneg Sifil NMWTRA
- Prentis Digidol Diogelwch Seibr NMWTRA (Lefel Gradd)
- Prentis Busnes NMWTRA
- Prentis Digidol Diogelwch Seibr TG (Lefel Gradd)
- Prentis Trydanwr Golau Stryd

Gofal Oedolion
Prentis Gofal Oedolion
Gan ystyried fod y boblogaeth yn heneiddio, mae swyddi yn y maes gofal oedolion yn swyddi allweddol a phwysig. Os ydych chi’n berson sydd yn hoffi gweithio gyda phobl, yn awyddus i wneud gwahaniaeth i fywydau eraill, ac yn awyddus i ddysgu, fe all y brentisiaeth hon fod yn berffaith i chi!
Profiadau tebygol:
- Gofalu am drigolion bregus y cartref
- Chwarae gemau a chodi calon y trigolion
- Cyfathrebu gyda theuluoedd trigolion y cartref
- Creu awyrgylch iach a diogel yn y cartref
I ddysgu mwy gwyliwch y fideo isod!

Technoleg Gwybodaeth
Prentis Gradd Technoleg Gwybodaeth
Oes gennych chi ddiddordeb mewn cyfrifiaduron a darganfod dull arloesol o weithio? Mae’r gwasanaeth technoleg gwybodaeth yn holl bwysig ar gyfer parhad gwasanaeth y Cyngor.
Profiadau tebygol:
- Gweithio ar brosiectau arloesol a newydd
- Dysgu am, a meistroli systemau allweddol TG y Cyngor
- Gweithio tuag at radd o Brifysgol Bangor (bydd y Cyngor yn talu am y radd felly dim dyled i chi!)

NMWTRA Peirianneg Sifil
Prentis Peirianneg Sifil
Cyfle arbennig i ddatblygu sgiliau mathemateg, a chynllunio hefo NMWTRA (North and Mid Wales Trunk Road Agency). Mae NMWTRA yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Gwynedd felly bydd y brentisiaeth yma yn cynnig profiadau unigryw ar gyfer datblygu yn y maes peirianneg sifil.
Profiadau tebygol:
- Cadw a chynnal cefnffyrdd ar draws gogledd a chanolbarth Cymru
- Bod yn rhan o arolygiadau hanfodol
- Cymryd rhan mewn prosiectau cynllunio

Gofal Plant
Prentis Gofal Plant
Cyfle i fod yn Brentis Gofal Plant ym Meithrinfa Plas Pawb, Caernarfon. Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio gyda phlant ifanc (o fabanod i blant hŷn), neu os ydych yn astudio cwrs Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac â diddordeb yn y maes, hon ydi’r brentisiaeth i chi!
Profiadau tebygol:
- Gwarchod babanod a phlant hŷn y feithrinfa
- Gwneud gwaith crefft gyda’r plant
- Hwyluso ac arwain gwaith chwarae

Goleuo
Prentis Trydanwr Goleuo
Gwasanaeth Goleuo’r Cyngor sydd yn gyfrifol am holl arwyddion a goleuadau stryd y Sir. Mae’r gwaith trydanol hwn yn hanfodol er mwyn diogelu trigolion y Sir gyfan.
Profiadau tebygol:
- Gosod a chadw colofnau goleuo, arwyddion, ac unrhyw ddodrefn stryd arall
- Gweithredu ar waith cynnal trydanol
- Cynorthwyo gydag archwilio a phrofi colofnau goleuo
I ddysgu mwy gwyliwch y fideo isod!

Cyswllt Cwsmer a Chofrestru
Prentis Cyswllt Cwsmer a Chofrestru
Byddwch chi fel prentis yn y maes yma’n darparu gwasanaeth, cymorth, gwybodaeth ac arweiniad i drigolion Gwynedd. Mae’r brentisiaeth yma’n cynnig y cyfle i chi fagu profiadau yn Siop Gwynedd, Dolgellau a hefyd yng Nghanolfan Galw Gwynedd, Penrhyndeudraeth.
Profiadau tebygol:
- Ymateb i ymholiadau trigolion Gwynedd dros y ffôn a wyneb i wyneb drwy gydweithio hefo gwasanaethau’r Cyngor
- Cyfle i gyfrannu at trawsnewid y ffordd yr ydym yn darparu gwasaneth i gwsmeriaid
- Cynnal Apwyntiadau’r Gwasanaeth Cofrestru

Anabledd Dysgu
Prentis Anabledd Dysgu
Dyma gyfle i gynorthwyo unigolion gydag anabledd dysgu i fyw eu bywydau yn y ffordd maent yn dymuno, i sicrhau bod ganddynt fywydau gweithgar a chyfoethog. Bydd y prentis yma yn creu, datblygu a chynnal ansawdd bywyd da i unigolion gydag anabledd dysgu ac yn cyflawni gwaith sy’n gwneud gwahaniaeth i fywydau.
Profiadau tebygol:
- Cwblhau amrediad o asesiadau er mwyn cyfrannu at ddeall anghenion person
- Gweithio ochr yn ochr â’r person sy’n derbyn y gefnogaeth
- Hyrwyddo egwyddorion cefnogaeth drwy’r holl wasanaeth
I ddysgu mwy gwyliwch y fideo isod!

NMWTRA Busnes
Prentis Busnes a Gweinyddiaeth
Cyfle i ddatblygu sgiliau busnes a chyllid arbennig gyda NMWTRA (North and Mid Wales Trunk Road Agency) sydd yn gweithio mewn partneriaeth gydaChyngor Gwynedd. Mae NMWTRA yn cynrychioli wyth llywodraeth leol ar draws Gogledd a Chanolbarth Cymru felly mae’r cyfle yma un unigryw a chyffrous iawn.
Profiadau tebygol:
- Rhwydweithio gyda chynghorau ar draws gogledd a chanolbarth Cymru
- Datblygu arbenigedd mewn gweithredoedd busnes
- Cyfrannu tuag at reolaeth gyllidol
I ddysgu mwy gwyliwch y fideo isod!

Peirianneg Sifil YGC
Prentis Peirianneg Sifil
Mae Ymgynghoriaeth Gwynedd Consultancy (YGC) yn ymgynghoriaeth amlddisgyblaethol a sefydlwyd gan Gyngor Gwynedd yn 1996. YGC yw’r ymgynghoriaeth fwyaf yng Nghymru sy’n cael ei rhedeg gan Awdurdod Lleol, gan weithio gyda nifer helaeth o gleientiaid yn y sector cyhoeddus a phreifat. Bydd y prentis yma yn gweithio yn benodol yn y maes Dŵr ac Amgylcheddol.
Profiadau tebygol:
- Cefnogi’r tîm i baratoi darluniadau a dogfennau gan ddefnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd cyfrifiadurol
- Bod yn rhan o dîm prosiect hyblyg a chynorthwyo staff peirianneg a thechnegol ar brosiectau
- Cwblhau cymhwyster wedi ei achredu gan yr ICE
I ddysgu mwy gwyliwch y fideo isod!
Ydych chi eisiau gweithio i ni?
