
“Ein nod yw denu unigolion dawnus a thalentog er mwyn darparu’r gwasanaeth gorau i gyfarch anghenion pobl Gwynedd.”
Dilwyn Williams, Prif Weithredwr
Croeso i’r dudalen Cynllun Yfory…
Mae Cynllun Yfory, sef cynllun graddedigion Cyngor Gwynedd, yn gyfle unigryw i unrhyw un sydd â gradd neu gyfwerth, i ddatblygu gyrfa yng Nghyngor Gwynedd. Os ydych chi erioed wedi meddwl y byddech chi’n hoffi gweithio i lywodraeth leol, mae Cynllun Yfory yn berffaith i chi.
Bu’r Cynllun yn rhoi’r cyfle i chi ddatblygu arbenigedd mewn maes allweddol a deall mwy am beth ydi’r gofynion wrth weithio mewn llywodraeth leol. Byddwch yn derbyn profiadau ymarferol ac amryw o gyfleoedd i ddatblygu eich sgiliau arbenigol a phersonol i sicrhau gyrfa hir a llewyrchus. Pwrpas Cynllun Yfory ydi:
1. Llenwi swyddi allweddol Cyngor Gwynedd
2. Sicrhau bod pobl broffesiynol gymwysedig yn eu lle i gwrdd ag anghenion staffio
3. Datblygu graddedigion talentog i fod yn arweinwyr ac arbenigwyr y dyfodol
4. Rhoi’r cyfle i unigolion dderbyn y profiadau, datblygu’r rhwydweithiau a chwblhau cymwysterau angenrheidiol i roi sylfaen gadarn i yrfa yn y Cyngor

Hyfforddeion Cynllun Yfory, 2019
Cwestiynau cyffredin
Oes angen gradd arna i?
Mae’n rhaid bod gennych chi, neu’ch bod yn gweithio tuag at radd (neu gyfwerth) ar lefel 2:1 neu uwch. Os ydych chi yn dal yn astudio ar gyfer y radd mae posib i ni ofyn am radd debygol gan y Brifysgol.
Beth yw’r cyflog?
Bydd yr Hyfforddai Proffesiynol yn dechrau ar gyflog o £24,313.00. Mae potensial iddo godi i £26,317.00 erbyn diwedd y tair blynedd, yn ddibynnol ar gynnydd.
Oes rhaid i mi fod yn rhugl yn y Gymraeg?
Mae’n rhaid bod yn rhugl yn y Gymraeg i fod yn hyfforddai ar y Cynllun Yfory gan fod Dynodiadau Iaith y Cynllun yn nodi’r disgwyliadau iaith uchaf.
Mae cyfle i hyfforddeion y Cynllun Yfory gael profiadau gwerthfawr y tu hwnt i’r arfer, fydd yn cyfarch elfennau gwleidyddol, strategol, gweithredol a rheng flaen.
Er mwyn cael dysgu ychydig mwy am y Cynllun Yfory, ewch i’r wefan. Neu, i gael safbwynt yr hyfforddeion eu hunain, cliciwch yma!
